Un o broseictau Menter a Busnes yw Cywain sydd a'r nod i helpu i ddatblygu cynnyrch neu farchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch cynradd amaethyddol neu bysgodfeydd
Cefnogi’r sector amaethyddol i ychwanegu gwerth drwy:
• Ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd
• Hwyluso cydweithio rhwng cynhyrchwyr, proseswyr a manwerthwyr
• Gwybodaeth arbennigol, cyngor a mentora
• Dosbarthu
Ychwanegu Gwerth Drwy Gydweithio
Mae ethos Cywain o ychwanegu gwerth drwy gydweithio yn cynnwys y gadwyn gyflenwi i gyd, o gynhyrchu bwydi brosesu, dosbarthu a gwerthiant terfynol - gall rhain fod yn gymleth. Gall Rheolwyr Datblygu gynghori a chynorthwyo wrth greu cysylltiadau gyda’r gadwyn gyflenwi a dod ar holl gamau at ei gilydd. Maent hefyd yn hwyluso cydweithio rhwng cynhyrchwyr gyda’r nod o ychwanegu gwerth i gynnyrch Cymraeg.
Cliciwch ar yr opsiynau isod am wybodaeth bellach am brosiect Cywain