Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Cadeirydd Menter “Working Smarter” yn ymweld â phrosiect TAG.

Creu Cyfrif or Mewngofnodi i ymuno a'r prosiect yma

Apwyntiwyd y cynghorydd annibynnol, Mr Gareth Williams, gan Lywodraeth Cymru i ystyried os yw’r fframwaith reoleiddio y mae ffermwyr Cymru’n ymwneud ag ef yn addas.  Bydd yn cyflwyno adroddiad o argymhellion i Weinidogion fis Rhagfyr.

Mae’n ymweld ag amrywiol ffermydd a busnesau gwledig er mwyn gweld beth sy’n gweithio, beth sydd fwyaf o fwrn, a ble mae’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Fel rhan o’r ymarfer casglu gwybodaeth hwn, treuliodd ddiwrnod ar Dachwedd yr 16eg yn ymweld â fferm Tier 1 prosiect TAG a Dunbia, safle prosesu ŵyn Llanybydder.

Prif fwriad yr ymweliad oedd:

•           Rhoi cyfle i Mr Gareth Williams i wella’i ddealltwriaeth o gyfleoedd datblygu ar fferm i ffermwyr defaid Cymru o safbwynt system EID defaid.

•           Arddangos bwriad prosiect TAG o gynyddu gwerth y wybodaeth a gofnodir er mwyn bodloni rheolau traws-gydymffurfio

•           Gweld darllenydd tag electroneg yn gweithio’n gywir, gyda thaith o amgylch un o brif safleoedd prosesu ŵyn.

Roedd Mr Williams o’r farn bod yr ymweliad yn ddefnyddiol iawn a nododd y byddai ei ddarganfyddiadau yn dylanwadu ei fewnbwn i’r adroddiad terfynol.