Gallai mwy o drefi Cymru wyrdroi’r dirywiad mewn manwerthu

13 Feb 2012

DATGANIAD I'R WASG

Gallai’r dirywiad economaidd sy’n wynebu llawer o ganol trefi yng Nghymru o ganlyniad i gau siopau ac ardaloedd manwerthu gael ei wyrdroi pe byddai  mwy o gydweithio rhwng landlordiaid, grwpiau cymunedol a’r sector preifat.

Mae’r cwmni datblygu busnes Menter a Busnes, sydd wedi bod ynghlwm wrth adfywio canol tref Caergybi lle mae mwy o siopau wedi ailagor nac sydd wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf, yn credu y gallai mwy o drefi wyrdroi’r dirywiad pe byddai cymunedau a’r sector preifat yn gweithio’n agosach â’i gilydd.

“Canol y dref yw calon pob cymuned. Ond yn bwysicach, maent hefyd yn ganolbwynt cyflogaeth a gweithgarwch cymunedol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes.

“Mae ein gwaith yng Nghaergybi gyda Phartneriaeth Plas Cybi, Cyngor Ynys Môn a busnesau unigol wedi dangos sut mae modd gwyrdroi sefyllfa. Rydym wedi gweld saith busnes newydd yn dechrau neu’n ehangu i mewn i siopau manwerthu yng Nghaergybi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i chymharu â llawer o drefi sy’n gweld mwy o siopau yn cau nac yn agor.”

Mae Menter a Busnes, sydd â swyddfeydd yng Nghaergybi, Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd, yn cynnig cefnogaeth ac ymgynghori proffesiynol i annog twf ymhlith busnesau, yn ogystal â datblygu a gweithredu rhaglenni ar gyfer entrepreneuriaeth, sgiliau ac arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. 

Yn y gorffennol cafodd Caergybi ei henwi yn y dref â’r gyfran uchaf o siopau gwag yn y DU. Heddiw mae ei sefyllfa wedi newid. Drwy weithio gyda landlordiaid a phobl leol drwy Bartneriaeth Plas Cybi, mae Menter a Busnes wedi cefnogi’r adfywiad drwy leihau nifer y siopau gwag.

Yn ystod y ‘fenter siopau gwag’ cynhaliwyd trafodaethau gyda landlordiaid ac asiantau eiddo gwag ac yna cynigiwyd rhenti is ar yr eiddo. Yna adnewyddwyd yr unedau ychydig a daethpwyd o hyd i denantiaid lleol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer y siopau gwag wedi’u lleihau o 37 i 30 ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo i lenwi’r unedau sy’n weddill.

“Mae’n deg dweud bod Caergybi wedi gwyrdroi’r duedd genedlaethol bresennol ac mae ei sefyllfa yn newid. Ond yr unig ffordd i wneud hynny yw cael pawb i gydweithio,” ychwanegodd Alun Jones. “Gellid ail-greu’r llwyddiant yng Nghaergybi ar draws Cymru gyfan drwy gydweithio arloesol rhwng landlordiaid, grwpiau cymunedol a’r sector cyhoeddus a phreifat.”

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd guru’r stryd fawr Mary Portas ei hadroddiad i lywodraeth y DU yn edrych ar yr hyn y gellid ei wneud i wyrdroi sefyllfa canol trefi.

Ynddo dywedodd y dylid gorfodi mwy o gadwyni cenedlaethol i ystyried lleoliadau canol tref cyn mynd ‘allan o’r dref’, ond, yn bwysicach, dywedodd bod angen rheoli canol trefi fel ‘busnesau preifat.’

“A dyna sydd wedi digwydd yng Nghaergybi. Mae’n gymysgedd o’r gymuned, a’r sector cyhoeddus a phreifat yn rheoli dyheadau drwy ddod â phawb ynghyd er lles y dref gyfan,” dywedodd Alun Jones.

“Ewch â’r model hwn i drefi Cymreig eraill a gallai cymunedau ar draws Cymru fod yn adfywio’u hunain yn fuan, a chreu a diogelu swyddi wrth wneud hynny.”

Er bod canol trefi yn cystadlu â gwerthu ar-lein, mae Menter a Busnes yn credu bod manteision i’r cwsmer wrth ddelio gyda natur unigryw ac ymagwedd bersonol y manwerthwr ar y stryd fawr.

Dywedodd Helen Evans o Eden Emporium sydd bellach wedi cymryd un o’r unedau manwerthu gwag: “Ni fyddem wedi cael y cyfle i ddechrau ein busnes heb brosiect o’r fath ac mae llawer o’r manwerthwyr newydd eraill yn yr un sefyllfa.

“Mae’r bartneriaeth a’r ymagwedd a reolwyd wedi creu cyfleoedd newydd ac, yn bwysicach, wedi rhoi bywyd yn ôl i mewn i ganol tref Caergybi a’r gymuned.”