Bydd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Materion Gwledig, Alun Davies yn cyfarfod grŵp trosglwyddo gwybodaeth merched yn unig Gyswllt Ffermio - Merched y Maes - yn y Ffair Aeaf eleni am 2yh dydd Llun, 28 o Dachwedd. Bydd y Dirprwy Weinidog yn cyfarfod y grŵp o Frycheiniog ar stondin Llywodraeth Cymru yn Neuadd Dde Forgannwg.
Mae’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, sy’n cael ei weithredu gan Menter a Busnes ers Medi’r cyntaf, wedi cael ei ddatblygu i gynorthwyo’r diwydiant amaeth yng Nghymru i ymelwa ar y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf er mwyn mynd i’r afael gyda heriau’r presennol a’r dyfodol i sicrhau bod busnesau fferm yng Nghymru yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial.
“Mae pawb yn cydnabod bod merched yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad a chynaliadwyedd ffermio yng Nghymru. Maent yn cael eu hystyried fel dylanwad a gweithredwr allweddol mewn sawl busnes ffermio, er bod nifer yn gweithio yn gymharol unigol o ganlyniad i natur cymunedau gwledig.
Drwy wasanaeth newydd Merched y Maes Cyswllt Ffermio, bydd merched yn derbyn y math o anogaeth a chefnogaeth maent angen i ddatblygu eu cryfderau a gallu. Nod y gwasanaeth newydd yma yw dod a merched i mewn i Gyswllt Ffermio mewn ffordd sy’n cymryd i ystyriaeth materion ymarferol fel edrych ar ôl eu teuluoedd ac ymrwymiadau eraill oddi-ar y fferm”, meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig ym Menter a Busnes.
Grŵp Merched y Maes Brycheiniog yw’r cyntaf o 15 grŵp mae Menter a Busnes yn bwriadu sefydlu drwy Ogledd, Canolbarth a De Cymru, fydd yn lledaenu gwybodaeth sy’n gysylltiedig i weithgareddau amaethyddol craidd i ferched sy’n aelodau.
“Bydd ein tîm o hwyluswyr trosglwyddo gwybodaeth leol yn allweddol i annog merched i ymuno gyda grwpiau Merched y Maes. Bydd Cyswllt Ffermio yn ceisio sicrhau bod y diwydiant yn gwneud defnydd o’r adnodd gwerthfawr yma, a rhoi’r gefnogaeth a’r gweithdrefnau angenrheidiol yn ei le i gefnogi merched sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai Mrs. Williams.
- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.
Newyddion
-
18 Mai 2012
-
10 Mai 2012
-
27 Ebrill 2012
-
11 Ebrill 2012
-
30 Mawrth 2012
Digwyddiadau
-
18 Mai, 2012 - 14:00
-
30 Mai, 2012 - 11:00
