Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

FiT for FARMING

Mi fydd Cyswllt Ffermio yn mynychu digwyddiad FiT for FARMING ar y 26ain Ionawr 2012 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd

Mae’r Tariff Cyd-lenwi Trydan a Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy yn golygu bod perchnogion tir sydd yn buddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddiadwy yn medru hawlio taliadau ar gyfer y trydan a’r gwres maent yn cynhyrchu.

Ond, i’r rhai hynny sydd â prinder amser, mae’n gallu bod yn anodd i ymrwymo’r amser er mwyn asesu’r cyfleoedd, dewis y technolegau gorau a’r cyflenwyr mwyaf addas.

Mae’r digwyddiad ‘Fit for Farming’, sydd wedi ei gefnogi gan y CLA a NFU Cymru, yn cynnig cyfle i ffermwyr sydd yn meddwl am osod system ynni adnewyddadwy i drefnu cyfarfodydd gyda chwmnïoedd perthnasol er mwyn creu rhestr fer o gwmnïoedd bosib i weithio gyda.

Mi fydd amrediad o gwmnioedd yn defnyddio’r digwyddiad fel cyfle i gynnal cyfarfodydd i drafod dichonoldeb ac ymarferoldeb systemau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys: Tyrbini gwynt, Solar, Ynni dŵr, treuliad anaerobic a biomas ayyb.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ar gyfer ffermwyr sy’n bwriadu buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ar eu tir.

Mae’r digwyddiad yn rhedeg rhwng 09:00 a 17:00 ar ddydd Iau 26ain o Ionawr, ac mae modd i ffermwyr drefnu cyfarfodydd gyda chwmnïoedd ar amseroedd cyfleus yn ystod y dydd.

Mi fydd Cydlynwyr Rhanbarthol Cyswllt Ffermio yno i gynnig gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar  gael trwy raglen Cyswllt Ffermio, gan gynnwys y Cynllun Fferm Gyfan, Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr a’r Rhaglen Datblygu Sgiliau.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i : www.fitforfarming.com/wales

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan y Rhaglen Dabtblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013. Mae hwn yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.