Archif Newyddion

13 Chwefror 2012

Gallai mwy o drefi Cymru wyrdroi’r dirywiad mewn manwerthu

DATGANIAD I'R WASG Gallai’r dirywiad economaidd sy’n wynebu llawer o ganol trefi yng Nghymru o ganlyniad i gau siopau ac ardaloedd manwerthu gael ei wyrdroi pe byddai  mwy o gydweithio rhwng landlordiaid, grwpiau cymunedol a’r sector preifat. Mae’r cwmni datblygu busnes Menter a Busnes, sydd wedi bod ynghlwm wrth adfywio canol tref Caergybi lle mae mwy o siopau wedi ailagor nac sydd wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf, yn credu y gallai mwy o drefi wyrdroi’r dirywiad pe byddai cymunedau a’r sector preifat yn gweithio’n agosach â’i gilydd. “Canol y dref yw calon pob cymuned. Ond yn bwysicach, maent hefyd yn ganolbwynt cyflogaeth a gweithgarwch cymunedol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes.

TAG | 19 Ionawr 2012

Cyflwyniad i Fwrdd Da Byw NFU Cymru

Ar yr 8fed o Ragfyr 2011 rhoddwyd cyflwyniad am brosiect TAG i Fwrdd Da Byw NFU Cymru mewn cyfarfod misol. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau sydd wedi eu hethol o wahanol siroedd yng Nghymru.   Prif bwrpas y cyflwyniad oedd cyfarwyddo aelodau o’r bwrdd gydag amcanion y prosiect aa rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.. Y prif ddatblygiadau o ddiddordeb i’r bwrdd oedd:   Effeithiolrwydd a chywirdeb darllenydd EID mewn lladd-dy ŵyn Dibynadwyedd tagiau EID Dibynadwyedd offer EID   Esboniodd Cyfarwyddwr y prosiect fod TAG yn cael ei ystyried fel prosiect peilot gyda strwythur dyrys sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid o fewn y diwydiant. Ychwanegodd bod y prosiect wedi ei sefydlu mewn cyfnod lle bu gwrthwynebu mawr i gyflwyniad EID fel rhan o reolau traws gydymffurfio.

Cyswllt Ffermio | 13 Ionawr 2012

FiT for FARMING

Mi fydd Cyswllt Ffermio yn mynychu digwyddiad FiT for FARMING ar y 26ain Ionawr 2012 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd Mae’r Tariff Cyd-lenwi Trydan a Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy yn golygu bod perchnogion tir sydd yn buddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddiadwy yn medru hawlio taliadau ar gyfer y trydan a’r gwres maent yn cynhyrchu. Ond, i’r rhai hynny sydd â prinder amser, mae’n gallu bod yn anodd i ymrwymo’r amser er mwyn asesu’r cyfleoedd, dewis y technolegau gorau a’r cyflenwyr mwyaf addas. Mae’r digwyddiad ‘Fit for Farming’, sydd wedi ei gefnogi gan y CLA a NFU Cymru, yn cynnig cyfle i ffermwyr sydd yn meddwl am osod system ynni adnewyddadwy i drefnu cyfarfodydd gyda chwmnïoedd perthnasol er mwyn creu rhestr fer o gwmnïoedd bosib i weithio gyda.

TAG | 21 Rhagfyr 2011

Cadeirydd Menter “Working Smarter” yn ymweld â phrosiect TAG.

Apwyntiwyd y cynghorydd annibynnol, Mr Gareth Williams, gan Lywodraeth Cymru i ystyried os yw’r fframwaith reoleiddio y mae ffermwyr Cymru’n ymwneud ag ef yn addas.  Bydd yn cyflwyno adroddiad o argymhellion i Weinidogion fis Rhagfyr. Mae’n ymweld ag amrywiol ffermydd a busnesau gwledig er mwyn gweld beth sy’n gweithio, beth sydd fwyaf o fwrn, a ble mae’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Fel rhan o’r ymarfer casglu gwybodaeth hwn, treuliodd ddiwrnod ar Dachwedd yr 16eg yn ymweld â fferm Tier 1 prosiect TAG a Dunbia, safle prosesu ŵyn Llanybydder. Prif fwriad yr ymweliad oedd: •           Rhoi cyfle i Mr Gareth Williams i wella’i ddealltwriaeth o gyfleoedd datblygu ar fferm i ffermwyr defaid Cymru o safbwynt system EID defaid. •           Arddangos bwriad prosiect TAG o gynyddu gwerth y wybodaeth a gofnodir er mwyn bodloni rheolau traws-gydymffurfio

TAG | 21 Rhagfyr 2011

Ymweliad Swyddogion o Lywodraeth Kosovo

Ddydd Mawrth yr 11eg o Dachwedd bu tîm rheoli TAG yn gwesteio cynrychiolaeth o swyddogion llywdoraeth o Kosovo. Pwrpas yr ymweliad oedd trosglwyddo gwybodaeth yn y maes olrhain defaid, gan fod Kosovo bellach yn cofrestru da byw a daliadau da byw wedi sawl blwyddyn o aflonyddwch oherwydd gwrthdaro milwrol. Ymwelwyd â safle Dunbia yn Llanybydder, lle amlinellodd Paul Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Cymru, y diwydiant prosesu yn y DU, ac yna cafwyd taith o amgylch y ffatri, ble mae darllenydd rhes EID yn cael ei ddefnyddio yn yr adran dderbyn stoc. Cafwyd trafodaeth ddwys gyda Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd am ei dyletswyddau yng nghyd-destun olrhain anifeiliaid, a iechyd a lles anifeiliaid o fewn yr adran dderbyn. Mae’r diwydiant prosesu yn Kosovo wedi ei ddifrodi, dau safle’n unig sydd yn weithredol erbyn hyn, ac mae strategaeth ailadeiladu yn cael ei datganoli.

Ffatri Fenter | 14 Rhagfyr 2011

Siopa Nadolig Hwyr Caergybi

Yn dilyn llwyddiant stondinau cleientiaid y Galeri ar stryd fawr Caaergybi pan fu’r llongau mordeithio yn ymweld â’r dref yn ystod yr Haf, penderfynwyd cysylltu â asiantaethau lleol Caergybi i dderbyn cefnogaeth ar gyfer trefnu Siopa Nadolig Hwyr yng Nghaergybi. Cafwyd cyfarfodydd cyson rhwng y Ffatri, Plas Cybi a BRAND ar gyfer trefnu fod y siopau lleol i gyd  yn agor ei drysau yn hwyrach bob nos Iau drwy gydol Rhagfyr. Yn ogystal trefnwyd, digwyddiadau nadoligaidd ar gyfer sadyrnau’r wŷl fel grotto Siôn Corn a lluniaeth Nadoligaidd.

Ffatri Fenter | 14 Rhagfyr 2011

Diwrnod Agored Galeri Siop y Porth

Cynhaliwyd diwrnod agored Galeri Siop y Porth ar ddydd Gwener, Tachwedd 25ain. Trefnwyd y diwrnod gan dîm y Ffatri a’r artistiaid sy’n arddangos ei gwaith celf. Diolch i’r erthygl a gyhoeddwyd gan y wasg a dosbarthiad y ffurfleni a’r gwahoddiadau fe gafwyd cryn dipyn o bobl yn mynychu. Roedd y cyhoedd, cynhgorwyr a staff asiantaethau lleol wedi plesio ac yn falch iawn o’r artistiaid yn gwneud y gorau o’r cyfle. Cafwyd lluniaeth blasus iawn gan cyn gleient y Ffatri, Denice Joseph, sydd bellach wedi agor Dee’s Deli ar stryd fawr Caergybi. Os ydych yn y cyffuniau ryw dro efo chwant bwyd, ewch yno!

Ffatri Fenter | 14 Rhagfyr 2011

Datblygiad Prosiect Llenwi Siopau Gwag Caergybi

Oherwydd cyd-weithrediad y Ffatri gyda asiantaethau eraill Caergybi a chleientiaid y Ffatri, mae cleient newydd wedi penderfynu ymuno â’r ymgyrch i lenwi siopa gwag y dref. Ar hyn o bryd mae James Morgan yn nghanol y trefniadau ar gyfer symud i mewn y Stryd William, Caergybi ar gyfer agor Siop Cerddoriaeth cyntaf y dref ers degawadau! Ers blynyddoedd mae James wedi bod yn chwarae mewn bandiau ac mae wedi dewis dilyn ei freuddwyd o agor siop yn y dref a fydd yn galluogi aelodau o’r gymuned i ddefnyddio ‘stafell ymarfer am ddim a cynnig cefnogaeth i’r ysgolion lleol. Gobeithiai James agor y siop erbyn y Nadolig. Cyn belled mae yna gyfanswm o 4 siopau wedi agor yn ddiweddar ar stryd fawr Caergybi sydd yn sicr wedi gwella edrychiad a poblogrwydd y dref.

Ffatri Fenter | 14 Rhagfyr 2011

4 cleient Ffatri Fenter yn agor siop eu hunain!

Fel yr addewid yn gynharach yn y flwyddyn, mae gennym ddiweddariad bositif i’w adrodd am y prosiect. Dros y flwyddyn diwethaf mae staff y prosiect wedi bod yn ddiwyd iawn wrth gyd-weithio gyda asiantaethau brwdfrydig eriall Caergybi i rhoi cyfle i’w cleientiaid agor siop eu hunain. Gyda cefnogaeth Plas Cybi a Cyngor Môn, mae 4 cleient wedi uno ar gyfer agor ‘Eden Emporium’ ar stryd fawr Caergybi. Y partneriaid busnes yw: Jann Bell sy’n berchen ar Môn Accessorize, Helen Evans, cyn-gystadlewyr Gorsedd y Dreigiau 2010, Donya Legge sy’n cynyrchu cacennau nefolaidd ac Alison Doran gyda’i busnes ‘Windswept’- cynyhyrchu gemwaith unigryw gan ddefnyddio cynnyrch ail-gylchu naturiol. Wrth ddenfyddio cefnogaeth y Ffatri, mae’r bedair wedi llwyddo i weithio fel tîm yn y gobaith bod y siop yn mynd o nerth i nerth. Pob Lwc iddynt!

Ffatri Fenter | 14 Rhagfyr 2011

Sefydlu Siambr Masnachol newydd Caergybi

Am gyfnod hir mae perchnogion busnes lleol Caergybi wedi bod yn anhapus iawn efo cyflwr y dref a diffyg cefnogaeth gan y cyhoedd. Penderfynodd y Ffatri i wneud rhywbeth ynglyn â hyn a cysylltu gyda’r aeoldau gwreiddiol er mwyn sefydlu siambr newydd. Cafwyd cefnogaeth ac adborth cymysg iawn ar y dechrau a brofwyd yn anodd ar adegau ond wrth erfyn perswâd ac ychydig o ddyfalbarhad roedd y canlyniad yn ardderchog. Trefnwyd cyfarfod cychwynol yn ystod mis Medi gyda’r mwyafrif o berchnegion y siopau lleol yn bresennol ynghŷd â Rheolwr y Dref, Alan Southall a Chyngor Môn.