Asesiad sgiliau…hyfforddiant ymarferol ac sy’n gysylltiedig â rheoleiddiadau
Beth yw’r Rhaglen Datblygu Sgiliau…sut fydd o fudd i mi?
Mae ein rhaglen datblygu sgiliau trwy gymhorthdal yn darparu mynediad i gyrsiau trwy Gymru gyfan. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sgiliau ymarferol
- Hyfforddiant sy’n gysylltiedig â rheoleiddiadau.
Gall sgiliau a hyfforddiant eich galluogi i wella effeithlonrwydd busnes a thechnegol a’ch galluogi i ymgymryd â heriau newydd. Bydd y cyrsiau cywir yn eich galluogi i:
- Wella arferion gwaith gyda’ch busnes
- Gyflawni gofynion statudol
- Arallgyfeirio i feysydd newydd
Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant – mae’r rhaglen hon ar gael i chi, i aelodau o’ch teulu agos a gweithwyr cyflogedig (Talu Wrth Ennill – PAYE). Byddai’n fuddsoddiad doeth o ran amser ac arian.
Dewis cwrs
Mae gennym rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant trwy Gymru sy’n cynnig cyrsiau cymeradwy neu achrededig ar ystod eang o destunau. Gallwch ddewis cyrsiau hyfforddi i gyd-fynd â’ch anghenion busnes. Mae ystod eang o gyrsiau i ddewis ohonynt:
Gofal anifeiliaid/da byw
- Cneifio defaid a dipio
- Tocio traed
- Lles anifeiliaid wrth deithio
- Defnydd diogel o feddyginiaethau milfeddygol
- Ymgymryd ag enhadiad artiffisial eich hun
Paratoi bwyd a hylendid
- Sgiliau cigydd
- Diogelwch bwyd mewn arlwyo a manwerthu
- Hylendid bwyd
- Prosesu cynnyrch llaeth a chig
Rheolaeth ffiniol
- Codi waliau cerrig sychion
- Ffensio
- Gosod cloddiau
Gofal gwastatir
- Tocio/cymhennu/llarpio
- Rheoli cynefinoedd a phyllau
- Defnydd diogel o beiriannau torri gwair
- Sgiliau garddwriaethol
- Naddwyr pren
Rheolaeth coetiroedd
- Defnyddio llif gadwyn
- Defnyddio peiriannau coedwigaeth
Cymorth gyntaf
- Cymorth cyntaf yn y gwaith
- Cymorth cyntaf mewn argyfwng
Iechyd a diogelwch
- Hanfodion Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Ymwybyddiaeth diogelwch safle
- Gwaith a wneir yn fecanyddol neu â llaw
- Asesiadau risg
- Diogelwch yn y gweithle
Rheolaeth pla a chlefydau
- Rheolaeth tyrchod daear a chnofilod
- Defnydd diogel o blaleiddiaid (cyrsiau PA)
Wagen godi ac offer
- Wagen fforch godi
- Craeniau a chodi
- Rhaw lwytho
- Dadlwythwyr
- Peiriannau turio 180o a 360o
Peirianwaith
- Olwynion sgraffiniol
- Gyrru tractor
- Rheoli tractor telesgopig
- Hyfforddiant ATV/beic cwad
Hyfforddiant gyrwyr
- Tynnu trelar
- Cerbyd Nwyddau Mawr
- Cerbyd Nwyddau Trwm
Mae llawer mwy o opsiynau ar gael – bydd eich cydlynydd rhanbarthol Cyswllt Ffermio’n ceisio gweddu eich anghenion i’r hyfforddiant priodol.
Newyddion
-
18 Mai 2012
-
10 Mai 2012
-
27 Ebrill 2012
-
11 Ebrill 2012
-
30 Mawrth 2012
Digwyddiadau
-
18 Mai, 2012 - 14:00
-
30 Mai, 2012 - 11:00
