Rhagolwg o’r economi fyd eang ar gyfer Diwydiant Amaeth yng Nghymru hyd at 2020
10yb-3yh, Chwefror 1af 2012
Hafod a’r Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Adroddiad cryno
Mae Cyswllt Ffermio, yn cynorthwyo busnesau ffermio ar draws Cymru i fod yn fwy effeithiol a lleihau costau mewnbynnau, dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog dros Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, wrth gynhadledd agoriadol Cyswllt Ffermio, Ffocws ar Ffermio, dydd Mercher y 1af o Chwefror, lle'r oedd nifer o arbenigwyr amaethyddol uchel eu parch o Gymru a’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i’r afael â ‘Rhagolwg economaidd byd-eang ar gyfer diwydiant amaeth Cymru hyd 2020’.
Y Dirprwy Wenidog oedd y prif siaradwr yn y digwyddiad Cyswllt Ffermio, denodd cynulleidfa lawn i Faes y Sioe Llanelwedd, lle darparodd yr Aul Davies yr anerchiad agoriadol i 150 o bobl, ffermwyr a choedwigwyr gan fwyaf, o bob rhan o Gymru.
Cadeirydd y digwyddiad oedd yr Athro Wynne Jones, OBE, sy’n gadeirydd Bwrdd Strategol Ymgynghorol Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, wedi ei benodi gan Fenter a Busnes sy’n darparu cymorth Cyswllt Ffermio, arweiniad a hyfforddiant a threfnwyr y gynhadledd.
Dechreuodd y Dirprwy Wenidog drwy bwysleisio pwysigrwydd costau cynhyrchu a phwysigrwydd rôl Cyswllt Ffermio yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gyflawni effeithlonrwydd gwell ar fferm.
“Er fy mod yn cydnabod pa mor bwysig yw i ffermwyr gael cymaint o elw â phosib o’r farchnad, un o’r ffactorau pwysicaf sy’n dylanwadu ar broffidioldeb yw rheoli costau cynhyrchu yn gyffredinol. Gallai meincnodi eich busnes yn erbyn busnesau eraill, asesu eich sefyllfa ar hyn o bryd, gweld ble mae’n bosib gwella, a dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol, fod yn allweddol i ddyfodol eich busnes a’ch proffidioldeb.
“Nid oes amheuaeth bod cysylltiad rhwng sgiliau a chynhyrchiant busnesau ac elw. Byddai datblygu sgiliau yn gwella cynhyrchiant a chynaliadwyedd y diwydiant amaethyddol wrth fynd ymlaen at 2020 a thu hwnt. Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi’r sgiliau i ffermwyr ddelio â blaenoriaethau o bwys, fel diogelwch bwyd a bwydo poblogaeth gynyddol y byd, tra hefyd yn rheoli’r amgylchedd ar ran pobl Cymru ac yn fyd-eang” dywedodd y Dirprwy Wenidog.
Mae Owen Jones yn arwain Cronfa Gwarantu Amaethyddol Ewrop (EAGF) yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaeth y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel. Rhoddodd wybodaeth i fynychwyr ar y Diwygiad CAP yn y cyd-destun Ewropeaidd gan edrych ar dafluniadau i’r dyfodol a sut gallent effeithio ar ffermwyr Cymreig. Pwysleisiodd Mr Jones fydd dyfodol CAP yn canolbwyntio ar cystadleuaeth gwell, bod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy effeithiol.
Darparodd Mrs Terri Thomas, Pennaeth Adran Polisi Cefn Gwlad, Llywodraeth Cymru safbwynt Cymreig ar y diwygiad CAP a thrafododd sut bydd y trawsnewidiad o’r system taliadau hanesyddol yn effeithio ar ffermwyr Cymreig. Amlygodd materion fel ailddosbarthu taliadau, gwyrddio’r CAP, Gwarchodfa Genedlaethol a diffiniad o ‘ffermwr gweithredol’ ac ailadroddodd y neges bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i glywed barn ffermwyr Cymru, gan annog mynychwyr i ymateb i’r ddogfen ‘Sgwrs am y ffordd ymlaen’ CAP sy’n cau ym Mawrth 2012.
Cyflwynodd yr Athro Allan Buckwell, Athro Emeritws mewn Economeg Amaeth, Coleg Imperialaidd Llundain ei ddadansoddiad o ddyfodol ffermio. Darparodd mewnwelediad i’r tueddiadau economaidd a phoblogaeth byd eang fydd yn effeithio ar ffermio yng Nghymru a darparu llawer o bethau i feddwl amdano gan ofyn i fynychwyr ystyried os oedd marchnadoedd byd eang yn ehangu, dylai Cymru dyblygu Iwerddon a gosod targedau i gynyddu allbwn amaethyddol. Amlygodd yr Athro Buckwell y cyfleoedd a’r heriau bydd yn wynebu ffermwyr yn y dyfodol mewn perthynas â newid hinsawdd.
Soniodd Arwyn Owen, Rheolwr Hafod y Llan, Fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Eryri am ei brofiadau o deithio dramor i Seland Newydd a Tsiena drwy ei ysgoloriaeth Nuffield gan ddweud gymaint oedd wedi newid yn y sector amaethyddol dros y pum mlynedd diwethaf. Proffwydodd Arwyn ddyfodol disglair, er yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant, gan ddweud bod ffermwyr Cymreig yn fedrus iawn ac mewn sefyllfa dda i ddelio gyda newidiadau.
Gan gadw gydag egwyddor cyfnewid gwybodaeth, roedd sesiynau amser cinio a’r prynhawn yn darparu cyfle i fynychwyr ddweud eu dweud. Roedd trafodaethau o amgylch byrddau wedi’u hwyluso yn canolbwyntio ar y prif faterion sy’n wynebu ffermwyr yng Nghymru. Roedd hyn yn rhoi’r cyfle i ffermwyr ystyried y materion bydd yn wynebu eu busnes yn y pum mlynedd nesaf; y newidiadau maent yn bwriadu ei wneud oddi fewn eu busnesau a’r wybodaeth ac arweiniad maent ei angen gan Cyswllt Ffermio i gefnogi eu busnes yn y cyfnod yma o newid.
Crynhodd yr hwyluswyr y prif bwyntiau trafodwyd ar bob bwrdd gan ddarparu adborth i’r Gynhadledd. Roedd materion yn cynnwys y diwygiad CAP, pryderon am Ardal yr Ewro a chyfradd cyfnewid, TB a rheoliadau oedd rhai o’r pryderon allweddol cyffredin. Roedd mynychwyr yn teimlo ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar y costau mewnbwn sy’n cynyddu, gyda sgiliau ar gyfer cynhyrchu effeithiol yn cael eu hadnabod fel yr ardaloedd allweddol ble mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi’r diwydiant.
Adlewyrchodd Siôn Jenkins, ffermwr ifanc o Geredigion ar drafodaethau’r gynhadledd a’r themâu wrth siarad am ei brofiadau fel ffermwr ifanc, gan ysbrydoli pawb a siarad gyda gobaith am y dyfodol i ffermwyr ifanc yng Nghymru.
Gary Douch, Pennaeth Cyswllt Ffermio yn Llywodraeth Cymru oedd siaradwr gwadd olaf y diwrnod wnaeth gloi’r gynhadledd drwy amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru. Roedd yn annog ffermwyr i wneud y mwyaf o’r gefnogaeth oedd ar gael drwy Cyswllt Ffermio - cyd-weithio ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r sector amaeth yng Nghymru.

- Mewngofnodi neu cofrestru i gofnodi sylwadau.

Newyddion
-
18 Mai 2012
-
10 Mai 2012
-
27 Ebrill 2012
-
11 Ebrill 2012
-
30 Mawrth 2012
Digwyddiadau
-
18 Mai, 2012 - 14:00
-
30 Mai, 2012 - 11:00
