Beth yw Cywain Pysgodfeydd?
Prif nod CYWAIN PYSGODFEYDD yw cynorthwyo'r sector bysgod i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch. Gwneir hyn trwy ddatblygu cynnyrch neu farchnadoedd newydd gyda’r pwyslais ar gydweithio. Y gobaith yw y bydd cydweithio effeithiol o gymorth i greu dyfodol cynaliadwy i’r sector. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys pob math o gefnogaeth, hwyluso, cyngor arbennigol a gwasanaeth mentora safonol gyda phwyslais cryf ar ychwanegu gwerth. Y nod fydd meithrin gallu a hyder y cyfranogwyr er mwyn eu galluogi i gymryd perchnogaeth o’r fenter, ac i’w hannog i fynd i’r afael yn llawn â’i ddatblygiad. Rydym yn gweithio gyda phedwar grŵp gwahanol: • Pysgotwyr • Gwerthwyr Pysgod • Cymdeithasau • Amaethu Dŵr Mae'r prosiect hefyd yn rhoi ffocws clir ar anghenion a dyheadau cwsmeriaid, yn ogystal â’r farchnad yn gyffredinol, trwy gynnig gwasanaeth gwybodaeth marchnad. Darperir hyn am ei fod yn rhan anatod o ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd llwyddiannus.
Nawdd
Mae'r prosiect yn weithredol trwy Gymru gyfan, ac mae'n cael ei ariannu trwy'r Gronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd, gydag arian cyfatebol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid oes cost i’r cleient am y gwasanaeth.
Newyddion
-
01 Gorffennaf 2010
