Beth yw Cywain?
Prif nod CYWAIN yw i gynorthwyo a chefnogi’r sector amaeth i ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddatblygu cynnyrch neu farchnadoedd newydd, gyda’r pwyslais ar gydweithio. Y gobaith yw y bydd cydweithio effeithiol yn cynorthwyo wrth greu dyfodol cynaliadwy i’r sector. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys gwahanol fathau o gefnogaeth, megis rhwyddhad, cyngor arbenigol a gwasanaeth mentora o safon sydd â phwyslais cryf ar ychwanegu gwerth. Y nod yw adeiladu cynnwys a hyder cyfranogion er mwyn eu galluogi i gymryd meddiant o’r fenter newydd, a’u annog i wneud yn fawr o’i photensial. Mae’r gwasanaeth ar gael i unigiolion a grwpiau. Mae’r prosiect hefyd yn darparu ffocws clir ar anghenion a dymuniadau cwsmeriaid, yn ogystal â’r farchnad gyffredinol. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfrwng darpariaeth gwasanaeth gwybodaeth farchnad, sy’n cael ei ystyried yn ran hanfodol o ddatblygu cynnyrch newydd a marchnadoedd llwyddiannus.
Nawdd
Mae’r prosiect yn cael ei weithredu dros Gymru gyfan, ac yn cael ei ariannu trwy Gynllun Effeithiolrwydd y Gadwyn Gyflenwi Llywodraeth Cynulliad Cymru (un o gynlluniau’r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru). Nid oes cost i’r cleient am y gwasanaeth.
Sut? / Pa Wasanaethau?
Mae CYWAIN yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chyngor hollol addas i gydfynd ag anghenion y cleient. Gallwn weithio gyda naill ai unigolion neu grwpiau o gynhyrchwyr a ffermwyr. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i’r cleient. Y cyfan rydym ei angen yw i chi gofrestru gyda’r gwasanaeth, a darparu eich Holding Number a’ch Customer Reference Number (CRN). Y cam cyntaf yw cael un o Reolwyr Datblygu Cywain i ymweld â chi a thrafod y cynlluniau sydd gennych ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Mae’r pwyslais naill ai ar ddatblygu marchnad newydd ar gyfer eich cynnyrch, neu ar ddatblygu cynnyrch newydd. Gallwn gynnig y gwasanaethau canlynol, yn ddibynnol ar eich syniadau a pa mor bell rydych wedi datblygu:
- Gwybodaeth Marchnad – Mae gennym yr amser a’r adnoddau i ddarganfod y wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r marchnadoedd byddwch yn cystadlu ynddynt. Mae gennym fynediad i adroddiadau diwydiant, cylchgronau masnach, ac amrywiaeth o wybodaeth arall y gallwn grynhoi ar eich cyfer. Byddwn yn darparu ffocws clir ar anghenion a dymuniadau cwsmeriaid, yn ogystal â’r farchnad gyffredinol.
- Ymchwil a Datblygu Cynnyrch/Syniad – Gallwn wneud ymchwil ar gynnyrch tebyg sydd ar y farchnad ar hyn o bryd, er mwyn i chi fedru cymharu a chyferbynnu eich syniadau. Gallwn eich cynorthwyo yn ogystal i ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Rhwydwaith Bwyd Cymru, a’r tair canolfan fwyd yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn.
- Rhwyddhad – Gallwn eich cynorthwyo a’ch cefnogi trwy gydol yr holl broses. Yn ogystal â’ch darparu â’r wybodaeth farchnad berthnasol, gallwn hefyd gyflogi ymgynghorwr neu fentor i weithio gyda chi i ddatblygu eich syniadau ymhellach. Byddwn yna’n rhwyddhau’r broses ohonoch chi’n gweithio gyda’r mentor, ac yn sicrhau fod eich anghenion chi, y cleient, yn cael eu cwrdd yn llawn gan gyflawni briff llawn i’r mentor weithio ohono.
- Cefnogaeth Arbennigol / Mentora – Fel a soniwyd ynghynt, byddwn yn cyflogi ymgynghorwr neu fentor i weithio gyda chi i ddatblygu’ch busnes. Mae’r mentoriaid a’r ymgynghorwyr sy’n gweithio i ni wedi mynd trwy broses ddethol lem i gyrraedd meini prawf manwl i sicrhau eu bod yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith. Y nod yw y bydd y bobl yma’n gweithio’n agos gyda chi i adeiladu eich hyder, cynnwys a’ch gwybodaeth i ddatblygu eich busnes, a chyrraedd eich potensial yn llawn.
- Cynlluniau Busnes a Marchnata – Eto’n ddibynnol ar eich anghenion, gallwn weithio gyda chi i ysgrifennu cynllun busnes er mwyn i chi fod yn hyderus fod y fenter yn ymarferol yn ariannol. Gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynllun marchnata i sicrhau fod gennych ddealltwriaeth lawn o pwy yw eich cwsmeriaid, a sut i’w cyrraedd. Gallwn hefyd eich cynghori ar faterion megis y ‘llwybr i’r farchnad’ gorau ar gyfer eich busnes.
