Darperir ganmenter a busnes
 Darperir gan
menter a busnes

Cywain, ychwanegu gwerth trwy gydweithio

Prif nod Cywain yw helpu'r sector amaeth i ychwanegu gwerth at gynnyrch cynradd.

Gwneir hyn trwy ddatblygu cynnyrch neu farchnadoedd newydd gyda‘r pwyslais ar gydweithio. Y gobaith yw y bydd cydweithio effeithiol yn help i greu dyfodol cynaliadwy i‘r sector.

Mae‘r cymorth yn cynnwys pob math o gefnogaeth yn cynnwys: hwyluso, cyngor arbenigol a gwasanaeth mentora safonol gyda phwyslais cryf ar ychwanegu gwerth. Y nod fydd meithrin gallu a hyder y cyfranogwyr er mwyn eu galluogi i gymryd perchnogaeth o‘r fenter ac i‘w hannog i fynd i‘r afael yn llawn â‘i ddatblygiad.

Mae‘r prosiect yn rhoi ffocws clir ar anghenion a dyheadau cwsmeriaid, yn ogystal â‘r farchnad yn gyffredinol, trwy gynnig gwasanaeth gwybodaeth marchnad. Darperir hyn am ei fod yn rhan annatod o ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd llwyddiannus.

Mae‘r prosiect yn weithredol trwy Gymru gyfan ac yn cael ei ariannu gan Gynllun Effeithiolrwydd y Gadwyn Gyflenwi (un o Gynlluniau Datblygu Gwledig Cymru).