Beth yw Gwir Farchnata?
Adnodd marchnata a gwerthu wedi ei deilwra‘n ymarferol i gynorthwyo cynhyrchwyr bwyd i ddatblygu marchnad y DU.
Pwy yw Gwir Farchnata?
Cymdeithasiad o arbenigwyr marchnata bwyd a diod o‘r DU a‘r Iwerddon, wedi dod at ei gilydd drwy Menter a Busnes a Chyfarwyddiaeth Fwyd y Cynulliad, i dyfu busnesau bwyd a diod Cymreig gan gysylltu gyda rhaglen debyg i gwmnïau bwyd a diod Gwyddelig.
Pam Gwir Farchnata?
Mae nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod yn rhwystredig yn eu tyfiant oherwydd diffyg amser rheolaeth ar gyfer datblygu‘r busnes. Mae cwmnïau yn adnabod yr hyn sydd angen ei wneud ond mae cyfyngiadau rhedeg eu busnes yn achosi cryn rwystredigaeth. Mae Gwir Farchnata yn dod â chwmnïau da a phobl fusnes effeithiol at ei gilydd gan anelu i greu cwmnïau gwell. Mae cwmnïau client yn derbyn cymorth mentora gan rywun profiadol ym maes gwerthiant a marchnata o‘r sector fwyd ynghyd â chynnig hyfforddiant ansawdd uchel. Cyllidir y prosiect gan INTERREG IIIA, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bord Bia ac Enterprise Ireland.
Pwy sy'n gymwys?
Unrhyw fusnes cynhyrchu bwyd yn cyflogi llai na 500 o bobl yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phenfro. Noder fod rhai categorïau o gynnyrch bwyd na all dderbyn cymorth, cysylltwch â‘r rheolwr prosiect, Bethan Sian Jones, am fwy o wybodaeth:
bethan@truemarketing.co.uk
01691 830189
