Menter a Busnes



 

Prosiectau

Cwlwm Busnes

Gwasanaeth ar-lein yw Cwlwm Busnes Cymru sy'n darparu cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol i fusnesau Cymraeg, gan annog cyd weithio a rhyng fasnachu rhwng y busnesau hynny yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Yn hanesyddol mae cymunedau busnes ar draws Cymru wedi colli‘r cyfle i wneud defnydd sylweddol o‘r iaith Gymraeg fel iaith fusnes. Tra bod nifer fawr o bobl fusnes yn sgwrsio yn y Gymraeg ar lefel un i un gyda‘i rheolwr banc, cyfrifydd, cyflenwyr neu gwsmeriaid, pan mae‘n dod i sefyllfa grwp busnes ffurfiol mae materion yn dueddol i gael eu trafod yn Saesneg.

Fodd bynnag, mae profiad Menter a Busnes yn dangos pan mae‘r grwpiau hyn yn cael cyfle (drwy ddigwyddiadau penodol) i ddefnyddio‘r iaith ar gyfer trafod busnes mae‘n nhw yn mwynhau‘r profiad ac yn dangos brwdfrydedd i gynyddu‘r cyfleoedd i wneud hynny.

Mewn ymateb i‘r canfyddiad hyn mae Menter a Busnes wedi hwyluso‘r broses o sefydlu nifer o glybiau busnes cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. Datblygiad naturiol felly oedd sefydlu gwasanaeth Cwlwm Busnes Cymru ar lein fel bod modd i fusnesau fedru cyfathrebu â‘i gilydd yn y Gymraeg lle bynnag y mae‘n nhw.

Mae gwefan a gwasanaethau Cwlwm Busnes yn cael eu hail ddatblygu ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Huw Williams
Menter a Busnes
Uned 2a
Ystâd Ddiwydiannol Hendy
Yr Hendy
Sir Gaerfyrddin
SA4 0XP

Ffôn: 01792 886306
Ffacs: 01792 886301
Ebost: huw.williams@menterabusnes.co.uk

Cwlwm Busnes