Cymorth i Dendro!
Mae dod o hyd i‘r cyflenwr cywir yn hanfodol i unrhyw sefydliad llwyddiannus. Nod y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yw helpu busnesau i greu cysylltiadau rhyngfasnachol effeithiol ac i ddarparu cymorth ymarferol i fusnesau bach a chanolig i ennill cytundebau yn y sector breifat a‘r sector gyhoeddus.
Daeth y rhaglen i fodolaeth ddiwedd 2005. Mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £5biliwn y flwyddyn ond dim ond 49% o'r gwariant sy'n aros yng Nghymru - am bob 1% ychwanegol mi fyddai'n creu 2,000 o swyddi ychwanegol. Felly, ceisio sicrhau fod cwmnïau yng Nghymru yn ennill mwy o gytundebau‘r sector gyhoeddus a phreifat yw amcan y rhaglen.
Prif nod y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yw:
- Cymorth i fusnesau i ddarganfod cyfleon tendro addas, yn bennaf o fewn y sector gyhoeddus.
- Cymorth i lenwi ffurflenni tendro a holiaduron cyn-gymhwyso.
- Trefnu nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys Gweithdai Sut i Dendro, Cwrdd â‘r Prynwr a digwyddiadau Rhwydweithio.
- Gwefan y rhaglen ydy‘r wefan gaffael genedlaethol www.gwerthwchigymru.co.uk
Gweithgareddau Allweddol
Bydd y Prosiect yn:
- Helpu busnesau i brynu nwyddau a gwasanaethau oddi wrth gyflenwyr lleol.
- Helpu i baratoi busnesau lleol i ateb gofynion prynwyr sy‘n gweithredu o fewn y sector preifat a‘r sector cyhoeddus.
- Hwyluso‘r cyfleoedd i fusnesau gydweithio er mwyn ceisio ennill cytundebau mawr.
- Darparu‘r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau lleol ar gontractau / cyfleoedd busnes posibl.
Pwy sy'n Gymwys i wneud Cais?
- Cwmniau o fewn y sector Preifat gyda hyd at 249 o weithwyr, sydd a pherchennog annibynnol neu safle ymreolaethol yng Nghymru.
- Busnesau cymunedol a mentrau cymdeithasol nid ar elw.
Mae Menter a Busnes yn gyfrifol am ddarparu‘r gwasanaeth yn Siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Powys a Cheredigion ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae‘n partneriaid ar y rhaglen, Uned Datblygu?r Economi yng Nghyngor Wrecsam yn gyfrifol am ddarparu‘r gwasanaeth yn Siroedd Wrecsam a Fflint.

