Mae Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf (RhGCG) yn bartneriaeth o naw mudiad trydydd sector a sefydlwyd yn 2001 i gefnogi'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.
Fel un o‘r partneriaid mae Menter a Busnes yn medru cynnig cyngor a chymorth ynglyn a‘r iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac annog cyfranogaeth siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Rydym yn darparu hyfforddiant a gallwn hefyd ymweld â phartneriaethau i‘w cynorthwyo gyda phrosiectau penodol. Mae cefnogaeth ddwys hefyd ar gael i bartneriaethau sydd am ddatblygu cynlluniau penodol i ysgogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan.
Rydym hefyd wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo unrhywrai sydd yn ymwneud ag ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf gan gynnwys:
- Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith yn rhad ac am ddim:
- Cymunedau yn Siarad: Arweiniad i Gymunedau yn Gyntaf a‘r iaith Gymraeg
- Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Her Cyfres o daflenni gwybodaeth ar weithredu dwyieithrwydd
- Creu Proffil Iaith Cymunedol: Llyfryn er mwyn cynorthwyo gyda chreu proffil iaith o‘ch ardal chi
- Sesiynnau Blasu Cymraeg – pecyn i rai sydd am gael blas ar ddysgu‘r iaith
Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim ac rydym yn cydweithio‘n agos gyda chynllun Estyn Llaw a‘r Mentrau Iaith ar draws Cymru.
Am unrhyw wybodaeth pellach cysylltwch â naill ai:
Llyr Huws Gruffydd (Rheolwr y Prosiect)
Ffon: 01352 707830
Ebost: llyr@menterabusnes.co.uk
I fynd i wefan RhGCG cliciwch yma
Ariennir RhGCG gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gwasanaethau ar gyfer partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, cydlynwyr, a budd-ddalwyr allweddol eraill. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cefnogaeth uniongyrchol i bartneriaethau unigol, gwybodaeth am y rhaglen gyfan a darparu arweiniad ar faterion allweddol penodol megis datblygu potensial ac arolygon bro. Y Rhwydwaith hefyd sy'n rheoli Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf.
