FFATRI FENTER
Mae gwasanaethau‘r Ffatri Fenter ers Mehefin 2008 wedi cael eu hymestyn a bellach ar gael i drigolion Môn ag Arfon, Gwynedd.
Wyt ti dros 16, yn ddi-waith neu yn fyfyriwr addysg bellach ac yn byw yn ardal Môn neu Arfon? Eisiau cefnogaeth bellach ar ddatblygu neu dreialu syniadau busnes? Os felly, dyma‘r gwasanaeth i ti!
Mae ein tîm yn cynorthwyo unigolion i beilota eu syniadau busnes am gyfnod penodol o amser. Golyga hyn y gallant gael y profiad o redeg busnes eu hunain a phrofi gwerth y syniad busnes wrth barhau i dderbyn budd-daliadau neu i gyflawni ymrwymiadau personol e.e. astudiaethau coleg a chyfrifoldebau gofal teulu. Mae Menter a Busnes ers Medi 2008 wedi llunio cytundeb gweithredol gyda Chanolfan Byd Gwaith er mwyn sicrhau budd-daliadau ein cleientiaid tra maent yn treialu eu syniadau busnes.
Beth yr ydym yn ei gynnig?
- Un cydlynydd sy‘n gweithio‘n agos iawn gyda‘n cleientiaid i sicrhau cymorth a chyngor o‘r safon uchaf
- Cymorth i ddatblygu syniad
- Cyfle i drafod a chael cefnogaeth anffurfiol gyda mentor sydd yn rhedeg busnes yn barod
- Cymorth i ysgrifennu cynllun busnes h.y. troi syniadau yn y meddwl i‘w rhoi ar ddu a gwyn
- Cymorth i ysgrifennu llif arian er mwyn gweld os oes potensial gwneud elw.
- Rhoi‘r cleient mewn cysylltiad ag arbenigwyr ym mhob maes er mwyn cyngor neu hyfforddiant.
- Cymorth gyda chynllunio a gwneud ymchwil marchnad.
- Cyfeirio‘r cleient ymlaen i asiantaethau eraill a all fod o gymorth pellach.
- Hyrwyddo‘r busnesau newydd ynghyd â chymorth i ysgrifennu strategaeth farchnata.
- Benthyciad bychan di-log ar gyfer prynu stoc neu offer cychwynnol.
- Sesiynau creadigol wedi eu teilwra.
I ddarganfod mwy ac i weld os wyt yn gymwys am gymorth, cysyllta â Catrin Jones ar:
Ffôn: 01248 672672 neu 01407 765019
E-bost: s.catrin.jones@menterabusnes.co.uk
Gwefan: www.ffatrifenter.co.uk
