Datblygiadau Iaith-Economi
Y mae Menter a Busnes wedi sefydlu Fframwaith Ymchwil a Datblygu, o ganlyniad i'r angen a amlinellwyd yn strategaeth 'Iaith Pawb' Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nod y gwaith yw ehangu ar yr wybodaeth a‘r ddealltwriaeth sy‘n bodoli o gysylltiadau iaith ac economi er mwyn cyfrannu yn strategol i bolisïau a gweithgareddau y prif sefydliadau datblygu economaidd yng Nghymru.
Mae'r gwaith yn cynnwys:
- Adolygiad Llenyddiaeth o wybodaeth ar berthynas iaith-economi
- Comisiynu ymchwil i lenwi bylchau gwybodaeth
- Dysgu o ymarfer gorau yn rhyngwladol
- Sefydlu meincnodau ar gyfer asesu newid parhaus
- Datblygu Model gwerthuso tymor hir ar gyfer mesur effaith gweithgareddau
Fel rhan hanfodol o ddatblygiad tymor hir y Fframwaith Ymchwil a Datblygu y mae Grwp Trafod o nifer fechan o gynrychiolwyr wedi ei sefydlu i drafod ac i arwain ar y prif bwyslais ymchwil y Fframwaith.
Mae Menter a Busnes yn cyd-weithio gyda nifer o bartneriaid economaidd neu ieithyddol allweddol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, WLGA, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Gyrfa Cymru, ynghyd ag arbenigwyr ieithyddol ac economaidd.
