Beth yw Agrisgop
Rhaglen ddatblygu unigryw ac arloesol yw Agrisgop wedi‘i selio ar gysyniad dysgu trwy wneud (action learning), gyda‘r bwriad o gynorthwyo ffermwyr i hwyluso datblygiad eu busnesau.
Pam mae'n bodoli?
Datblygwyd y cynllun fel rhan o raglen Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Agrisgop yn gweithio gyda grwpiau o ffermwyr i greu a datblygu syniadau a chyfleon busnes. Sefydlwyd y cynllun er mwyn cynorthwyo ffermwyr i feddwl am y dyfodol – sut y byddent yn hoffi gweld eu busnes ymhen 5 i 10 mlynedd, a‘u cynorthwyo i gyrraedd y nod hwnnw.
Sut mae'n gweithio?
Mae Menter a Busnes wedi penodi Arweinwyr sydd wedi‘u lleoli ar hyd a lled Cymru. Un o dasgau‘r Arweinwyr yw sefydlu grwpiau o ffermwyr ac i weithio gyda‘r grwpiau am gyfnod penodol o amser. Tra bod y grwpiau yn gweithio gyda‘i gilydd fel un mae yna hefyd gyfle i unigolion o fewn y grwpiau gael cymorth un i un yn ogystal. Mae pob grwp yn cyfarfod oleiaf 6 gwaith ac yn datblygu eu syniadau rhwng y cyfarfodydd yma.
Ble mae ar gael?
Mae Agrisgop yn agored i unrhyw aelod o deulu amaethyddol yng Nghymru. Serch hynny nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, a bydd yn rhaid i bob aelod ymaelodi gyda Chyswllt Ffermio.
Manylion cyswllt
I ganfod eich Arweinydd lleol cliciwch ar y ddogfen ‘Arweinwyr‘ ar ochr dde‘r sgrin
