Gwadiad Gwefan Menter a Busnes
Mae‘r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon i bwrpas gwybodaeth gyffredinol yn unig. Darperir y wybodaeth gan ‘Menter a Busnes‘, ac er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a geir ar y wefan yn cael ei ddiweddaru‘n gyson, nid ydym mewn unrhyw fodd yn gwneud unrhyw osodiadau na gwarant o unrhyw fath, sy‘n datgan neu yn awgrymu ynglyn â chyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â‘r wefan neu‘r wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau neu‘r graffeg berthnasol a gynhwysir ar y wefan i unrhyw bwrpas. Mi fydd unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar y wybodaeth yn cael eu wneud ar eich risg eich hunan.
Ni fyddwn mewn unrhyw achos yn atebol am unrhyw golledion neu ddifrod yn cynnwys heb unrhyw gyfyngiad, difrod neu golled anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw golled neu ddifrod a geir o golli data neu elw, o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad gyda‘r, defnydd o‘r wefan hon.
Drwy‘r wefan hon, gallwch gysylltu gyda gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth ‘Menter a Busnes‘. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys neu argaeledd y gwefannau hynny. Nid yw cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill yn awgrymu argymhelliad nag ardystiad o unrhyw wybodaeth a geir arnynt.
Gwneir pob ymdrech i gadw gweithrediad y wefan yn effeithiol a llyfn. Er hyn, nid yw ‘Menter a Busnes‘ yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am, nac yn atebol os nad yw‘r wefan ar gael dros dro oherwydd problemau technegol sydd tu hwnt i‘w reolaeth.
