Gwasanaethau Adnoddau Dynol Mabis
Mabis HR - yn cynnig atebion blaengar Adnoddau Dynol i'ch busnes chi gan gynnwys:
- Gwaith ymgynghorol cyffredinol
- Gwobrwyo, gan gynnwys arolygon cyflog, sustemau graddfeydd cyflog, buddiannau
- Rheoli Perfformiad gan gynnwys systemau bonws ac arfarnu
- Strategaeth Adnoddau Dynol, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol
- Datblygu pobl a rheoli talent
- Rheoli absenoldeb
- Sefydlu sustemau Adnoddau Dynol a rheoli llinell
- Dadansoddi anghenion hyfforddi a datblygu
- Hyfforddiant mewn prosesau a dulliau Adnoddau Dynol a Datblygu Pobl
- Cyfraith cyflogaeth, yn cynnwys cytundebau, telerau ac amodau gwaith, disgyblu a chwynion a chyfle cyfartal
- Recriwtio a dewis staff
- Anwytho staff
- Monitro a Gwerthuso ymgyrchoedd Adnoddau Dynol a Datblygu Pobl
Ein harbenigedd yw‘r gallu i gynghori ar bob agwedd o Adnoddau Dynol yn ddwyieithog gan gynnwys ystod o wasanaethau. Gall y gwasanaeth amrywio o weithredu ymarferol i‘ch cynorthwyo i gael y gorau o‘ch staff neu gynllunio strategol sydd yn gallu dadansoddi eich anghenion a llunio cynllun Adnoddau Dynol sydd yn cefnogi datblygiad a chyfeiriad y busnes.
