Cyfarwyddwr AD Menter a Busnes ar Restr Fer Gwobrau Institute of Directors - Cymru

04 Mai 2017

Mae Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cwmni wedi cael ei henwebu yng ngwobrau Institute of Directors – Cymru yng nghategori ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Adnoddau Dynol’, ac yn un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn.

 

Mae’r gwobrau yn eu seithfed flwyddyn erbyn hyn, ac yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr busnes Cymru sydd yn dathlu arweinwyr ysbrydoledig a llwyddiannau busnes.  Mae 10 categori gwahanol flwyddyn yma, gyda 3 categori newydd wedi cael eu creu, gan gynnwys ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn - Adnoddau Dynol.’   Bydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gwobrwyo yn Stadiwm SSE SWALEC, Caerdydd ar y 19eg o Fai.

 

Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol Cymru (a noddwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd) yn cael eu cynnwys yng ngwobrau Cenedlaethol IoD yn Llundain yn yr Hydref.

 

Dywedodd Corinna ‘Mae’n anrhydedd i gyrraedd rhestr fer gwobrau IoD Cymru yn y categori Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn. Mae Menter a Busnes yn buddsoddi’n sylweddol yn ei ymarferion rheoli a datblygu pobl ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o dîm AD y cwmni.’

 

 

Pob lwc Corinna! 

Our latest tweets

Pob lwc i Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr AD #MaB heddiw yng ngwobrau @IoDWales/Good luck to Corinna Lloyd-Jones today at the awards #HR
MaB yn gweithio gyda @Prif_Abertawe gyda ceisiadau i wella cyfansoddiad maeth bwyd a diod. Gwybodaeth pellach ar: https://t.co/KmtVbqT8Oy
MaB working with @SwanseaUni to help with applications to improve nutritional composition of food & drink. Info at: https://t.co/KmtVbqT8Oy
Ffenest ar agor i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cynllun grant Twf Busnes Strategol: Digwyddiadau Bwyd a Diod Cymru https://t.co/cVQtMql2tM