Mae Mabis yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth caffael yn ogystal â chefnogaeth busnes cyffredinol i'ch cynorthwyo i gystadlu am gytundebau yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, gan amrywio i arweiniad ynglŷn â sut i ysgrifennu tendr, hyd at gefnogaeth o ran gwella prosesau busnes er mwyn cynyddu nifer y cytundebau yr ydych yn eu hennill.
Mae pob aelod o'r tîm wedi ennill cymhwyster CIPS, ac mae ganddynt brofiad eang o ddarparu cefnogaeth hyblyg ac ymarferol i filoedd o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) ledled Cymru ers dros ddeng mlynedd, ar draws amrediad eang o sectorau gwahanol.
Mae'r holl wasanaethau ar gael yn llawn trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, ac maent ar gael ar sail un-i-un, fel grŵp neu ar lefel gweithdy. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth wedi'i deilwra ar y safle.
Cefnogaeth i fusnesau o bob maint
- Cefnogaeth ar gyfer ysgrifennu Holiaduron Cyn-Gymhwyso, ceisiadau a thendrau effeithiol
- Cefnogaeth rheoli ceisiadau a gweithredu strategaethau
- Hyfforddiant ysgrifennu ceisiadau a gwasanaethau ysgrifennu tendrau
- Ffug sgorio a diagnosteg ar gyfer gwelliant
- Technegau ar gyfer cyflwyniadau mewn cyfweliad
- Rheoli Ansawdd a Rheolaeth Amgylcheddol (ISO9001/14001)
- Ceisiadau CHAS / Constructionline / Cynllun Cyber Essentials
- Rheoli Parhad Busnes
- Datblygu strategaethau twf
- Busnes / AD / Cydraddoldeb / Marchnata
Cefnogaeth caffael ar gyfer prynwyr sector cyhoeddus a phreifat
- Hyfforddiant a chefnogaeth wedi'i deilwra ynglŷn â phrosesau caffael sy'n cydymffurfio â rheoliadau EU/OJEU
- Dylunio Methodoleg Sgorio ar gyfer Holiaduron Cyn Gymhwyso (PQQ) a Gwahoddiad i Dendro (ITT)
- Gweithredu prosesau caffael sy'n addas ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig
- Digwyddiadau ymgysylltiad ar gyfer y farchnad gyflenwi
- Darparu gweithdai ITT a PQQ i wella ansawdd ceisiadau cyflenwyr
- Cefnogaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi
- Gweithredu cynlluniau Budd Cymunedol a Gwerth Cymdeithasol
Sicrhau Ansawdd
- Mae pob cynghorydd wedi derbyn cymhwyster CIPS (Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi)
- System Rheoli Ansawdd ISO9001 wedi'i achredu gan UKAS (ar gyfer darparu cefnogaeth a chyngor i unigolion a grwpiau sy'n dymuno dechrau a datblygu busnes)
- Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol BS8555
- Buddsoddwyr mewn Pobl (Safon Aur)
- C2E - Committed to Equality (Safon Aur)