31 Mawrth 2014
Mynychodd tri deg tri o gleientiaid Cywain sioe fasnach bwyd a diod fwyaf y DU. Mae'r Expo Bwyd a Diod yn darparu llwyfan ar gyfer dros 650 o arddangoswyr o bob rhan o'r diwydiant bwyd a diod i lansio a hyrwyddo ei cynnyrch . Gafodd cleientiaid Cywain y cyflau i gael trosolwg o’r stondin Bwyd a Diod Cymru  gan, Russell Ferguson. Rhoddodd y  trosolwg cipolwg ar y gefnogaeth a gynigir gan y tîm Marchnata Bwyd Cyfan, ynghyd â phwysigrwydd cyflwyniad stondin . Derbyniwyd adborth gwych gan y mynychwyr, dywedodd Dave Everett o Home Farm 'Roedd yr ymweliad â'r Expo yn ddefnyddiol ar
28 Chwefror 2014
Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni bydd cwmni o Wynedd yn lansio dŵr Cymreig newydd sbon, sydd â pH perffaith ar gyfer y corff dynol.   Yn addas iawn ar gyfer diwrnod sy’n dathlu sant oedd yn cael ei adnabod fel Dewi Ddyfrwr, mae perchnogion cwmni Pant Du yn Nyffryn Nantlle yn cyflwyno i’r byd eu dŵr potel unigryw eu hunain. Mae’r dŵr yn teithio drwy graig Cyn-Gambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed. Stori sy’n werth ei hadrodd yn ôlMyrddin Davies, Rheolwr Cywain sydd wedi bod yn cynorthwyo’r cwmni i sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd marchnadoedd arbennig.   Ond bu’n daith hir
25 Chwefror 2014
Mae masnachwr pysgod o Landudno wedi bod yn helpu cogyddion medrus y dyfodol i fireinio eu sgiliau coginio mewn dosbarth meistr ar ffiledu pysgod (fish filleting) yng Ngholeg Llandrillo.   Rhannodd Wayne Jones o Mermaid Seafoods Ltd ei arbenigedd a’i brofiad o fwy na 18 mlynedd gyda myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo ar gampws y coleg yn Llandrillo yn Rhos.   Dechreuodd Wayne weithio ym musnes masnachu pysgod y teulu pan nad oedd ond 12 oed.  Fe’i gwahoddwyd i’r coleg gan Cywain Pysgod, prosiect ychwanegu gwerth dan adain Menter a Busnes, sy’n amlygu rhinweddau pysgod Cymru.   Roedd y myfyrwyr yn dilyn rhaglen o’r enw Llwybrau at Brentisiaeth (Pathways to Apprenticeships),
10 Chwefror 2014
Mae cwmni newydd sbon o Wynedd sy’n cynhyrchu teisennau berffro (shortbread) wedi llwyddo i lansio mewn dim o dro, diolch i gyngor arbenigol Cywain, cynllun ychwanegu gwerth at fwyd, Menter a Busnes.   Mewn cwta wyth wythnos o feddwl am y syniad i arddangos cynnyrch wedi ei frandio, mae Kit Ellis o Fferm Llwyndyrys ger Y Ffôr, Pwllheli wedi lansio CRYMS gyda chefnogaeth ei ffrind, Sioned Williams.    Dyw syniadau busnes ddim yn ddieithr i Kit gan bod y cyn-ddarlithydd cnydau a chyfrifon fferm eisoes yn rhedeg Sba Fferm a bythynnod gwyliau hunan arlwyo o gartref y teulu ar Fferm Llwyndyrys.   Cyn fyfyriwr a’i gweithiwr
05 Chwefror 2014
Mae gwraig fusnes o Sir Ddinbych am sicrhau Dydd Sant Ffolant melysach na’r arfer i bobl yng Nghymru a thu hwnt eleni, diolch i’w blodau crisialog cain.   Mae’r cwmni Eat My Flowers o Gorwen, newydd gwblhau archeb fawr am flodau melys a lolipops blodau i ddathlu Dydd Sant Ffolant i gwmni siopa Fortnum and Mason, Llundain.   Gan ddefnyddio technegau a etifeddodd gan ei Nain, mae’r cynhyrchydd Sarah Hughes yn trawsnewid planhigion mae hi’n eu tyfu yn ei gardd ei hun yn rhoddion bwytadwy hyfryd.   Diolch i gefnogaeth Cywain, cynllun ychwanegu gwerth Menter a Busnes sy’n cynorthwyo cynhyrchwyr yng Nghymru, mae cynnyrch Eat My Flowers wedi