Astudiaethau Achos

Mae perchnogion cwmni Pant Du yn Nyffryn Nantlle yn cyflwyno i’r byd eu dŵr potel unigryw eu hunain. Mae’r dŵr yn teithio drwy graig Cyn-Gambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed. Stori sy’n werth ei hadrodd yn ôlMyrddin Davies, Rheolwr Cywain sydd wedi bod yn cynorthwyo’r cwmni i sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd marchnadoedd arbennig.   Ond bu’n daith hir cael y dŵr i botel yn ôl Richard ac Iola Huws, perchnogion cwmni Pant Du, sydd eisoes yn cynhyrchu eu gwinoedd coch, gwyn, rosé eu hunain yn ogystal â sudd afal a seidr o’u gwinllan a’u perllan yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd.   Ond
Mae gwraig fusnes o Sir Ddinbych am sicrhau Dydd Sant Ffolant melysach na’r arfer i bobl yng Nghymru a thu hwnt eleni, diolch i’w blodau crisialog cain.   Mae’r cwmni Eat My Flowers o Gorwen, newydd gwblhau archeb fawr am flodau melys a lolipops blodau i ddathlu Dydd Sant Ffolant i gwmni siopa Fortnum and Mason, Llundain.   Gan ddefnyddio technegau a etifeddodd gan ei Nain, mae’r cynhyrchydd Sarah Hughes yn trawsnewid planhigion mae hi’n eu tyfu yn ei gardd ei hun yn rhoddion bwytadwy hyfryd.   Diolch i gefnogaeth Cywain, cynllun ychwanegu gwerth Menter a Busnes sy’n cynorthwyo cynhyrchwyr yng Nghymru, mae cynnyrch Eat My Flowers wedi
Flwyddyn union wedi i ffermwr blaengar o Ddyffryn Conwy blannu gwenith yn ei gae am y tro cyntaf erioed, mae’n dathlu trwy flasu bara cyflawn a bisgedi traddodiadol blasus a wnaed gan ei fecws lleol yn defnyddio ei rawn gwenith a wnaed yn flawd. Wrth lansio’r cynnyrch arbenigol, mae Cywain*, cynllun ychwanegu gwerth at gynnyrch Menter a Busnes, yn cydweithio â’r criw i farchnata a hyrwyddo’r cynnyrch blasus. “Oherwydd hinsawdd yr ardal, dyw gwenith ddim yn draddodiadol yn cael ei dyfu yn Nyffryn Conwy,” eglura Alwen Eidda, Rheolwr Datblygu Cywain. “Ac yn bendant, tydyn ni yn Cywain heb glywed am unrhyw ffermwr sy’n dilyn
Bydd Chilly Cow yn gweithredu o adeilad a addaswyd ar fferm Stryt Fawr , Llanychan , ger Rhuthun . I ddechrau , bydd naw  blas yn cael ei wneud o laeth organig a gyflenwir gan fuches y fferm o 80 o fuchod Brown Swistir . Daeth ysbrydoliaeth ar gyfer yr enw o berchennog y busnes Anna Taylor , a oedd am bwysleisio cymwysterau " hwyl" y brand . "Mae'n fodern, ffres ac adnabyddadwy , " meddai . "Ond mae hefyd yn enw sy'n , yn fwy na dim , gall pobl gael ychydig o hwyl  am . " Mae Anna ,  bellach yn werthwr tai
Daeth Cywain Gwenyn yn ymwybodol o Katie Hayward a chwmni Felin Honeybees Ltd am y tro cyntaf yn 2015. Roedd Katie yn gweithio llawn amser fel Swyddog Iechyd a Diogelwch ar y pryd, gydag uchelgais i weithio fel gwenynwr llawn amser ar ei fferm yng Nghemlyn, Ynys Môn.  Roedd hi wedi bod yn cadw gwenyn ers 17 mlynedd ac roedd yn chwilio am gefnogaeth i ddatblygu ei chynllun busnes er mwyn cynyddu nifer y cychod gwenyn a’r mêl yr oedd yn ei gynhyrchu, yn ogystal ag addysgu’r cyhoedd a thirfeddianwyr ynglŷn â gwenyn mêl a pheillio.   Trwy gronfa fentora a oedd ar