Cyngor a chymorth i gynhyrchwyr bwyd a diod
Mae’r rhaglen Clystyrau Sianel bellach yn weithredol, sy’n helpu cynhyrchwyr bwyd a diod i weithio’n fwy effeithiol gyda chyfanwerthwyr a manwerthwyr.
Os ydych chi’n gynhyrchydd bwyd a diod yn ardal INTERREG, cysylltwch â ni i drafod sut bydd y rhaglen yn gallu eich helpu chi i ddatblygu eich marchnad a’ch cynorthwyo chi i ddatblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfanwerthwyr a manwerthwyr.
Mae pob Clwstwr yn gweithio gyda chyfanwerthwr neu fanwerthwr ac fe’i gelwir yn Bartner Sianel, er enghraifft Eurospar. Mae Uwch Reolwyr yn y Partner Sianel yn nodi’r mathau o gynhyrchion maen nhw’n dymuno gweithio gyda nhw.
Mae Clystyrau Cyfredol yn Iwerddon a Chymru yn gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau cyfanwerthu a manwerthu:
- Good Food Distributors
- NISA
- Eurospar
- UK Independent Farm Shops and Delis
- London
- Filco/Tuffins
- National Trust
- Pallas Foods
- Horgans
- BWG Spar
- PRM
- La Rousse Foods
- Associated Craft Butchers
Mae’r prosiect yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd a diod. Mae hyn yn cynnwys mentora busnes, cyfarfodydd clwstwr, teithiau astudiaeth manwerthu, arddangosfeydd masnach a gweithdai.
Mae rhanbarth INTERREG yn cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Dinbych, Conwy, Ceredigion, Caerfyrddin a Penfro. Mae siroedd cyfagos yn gymwys ond ar raddfa llai: Abertawe, y Fflint a Wrecsam.
I gael mwy o fanylion am sut allwn ni helpu eich busnes chi, cysylltwch â:
Bethan Sian Jones
Ffôn: 01691 830189
e-bost: bethan.jones@menterabusnes.co.uk
This publication reflects the author's views and the Ireland Wales Programme Authorities are not liable for any use that may be made of the information contained therein
Llun
Ymweliad Astudiaeth Manwerthu Arbenigol ar y Cyd o Gynhyrchwyr Bwyd a Diod, Llundain – Medi 2010
